![]() |

NewyddionView News in English - View News in Welsh Dechreuodd ym mis Ionawr - derbyniodd Ffynnon wahoddiad i berfformio yng Ngŵyl y Cambio S yn Belo Horizonte, Brasil. Daeth y gwahoddiad gan Tessa Burwood o Professional Incredibles ac Espirito Brum. Mi wnaethon ni gyfarfod â Tessa gwpwl o flynyddoedd yn ôl pan fuon ni’n perfformio yng Ngŵyl Wadebridge yng Nghernyw. Cyfwelodd hi ni ar gyfer ei gorsaf radio ar y rhyngrwyd, Rhubarb Radio a byddai’n chwarae ein cerddoriaeth yn rheolaidd. Fe’i clywyd ym Mrasil gan y pianydd jazz a’r actifydd diwylliannol Gilberto Mauro ac roedd o’n ei hoffi. Ers hynny, mae Gilberto a Tessa wedi sefydlu Gŵyl y Cambio S yn Belo Horizonte yn Nhalaith Minas Gerais. Gyda llaw, mae cysylltiad hanesyddol rhwng Cernyw a Minas Gerais: o ganol y 19eg ganrif, aeth mwyngloddwyr o Gernyw i weithio yn y diwydiant mwyngloddio ym Mrasil - ac ystyr enw’r Dalaith yn y Gymraeg yw Mwyngloddiau Cyffredinol. Braint oedd rhannu llwyfan y Cambio S â’r sacsoffonydd jazz Mike Fletcher, y chwaraewr tabla Mendi Singh, y gitarydd (a’r boi o Lanelli!) Ellis Davis, y canwr sean nos a’r ffliwtydd Rioghnach Connolly, yr offerynnwr taro Aishá Lourenço a’r gitarydd Wanderson Lopez Gweler ni yma:
Felly buon ni’n perfformio ym Mrasil ac yna, ychydig yn ddiweddarach, daeth dau o’r cerddorion y cwrddon ni â nhw yno, Wanderson a Mendi, i berfformio yn Llambed. Yn fuan ar ôl hynny, gwahoddwyd Lynne gan Eva Skalla, Global Connections, i ganu yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Sharq Taronalari a gynhelir bob yn ail flwyddyn yn Sgwâr Registan - dynodedig gan UNESCO - yng nghanol Samarkand, Uzbecistan. Hon yw’r ŵyl gerdd ryngwladol fwyaf yn Asia a gynhelir mewn un o’r lleoliadau mwyaf trawiadol i ŵyl unrhyw le yn y byd. Ystyr Sharq Taronalari yw Alawon Dwyreiniol. Bydd cerddorion yn teithio o bedwar ban i berfformio yno, o Iran i Tsieina, o’r Wcráin i Fongolia. Roedd yno gantorion o America, Armenia ac Azerbaijan. Canodd Lynne gyda’r delynores Sioned Webb a’r ffidleres Clara Clay mewn triawd o’r enw Pentan. Cyfarfuon nhw â’r canwr a’r cyfarwydd Apache Ken Duncan a chlywson nhw’r chwedlonol Astrogeorgia, y parti canu polyffonig o Georgia. Roedd Kelima yno gyda’i chwiorydd, Pedwarawd Takideda, yn chwarae cerddoriaeth ar offerynnau traddodiadol o Fadagasgar a’r campus Lanaya o Burkina Faso. Ar dair ochr, mae’r sgwâr wedi’i ffinio gan fosgiau a madrasau, gyda thu blaen pob ochr enfawr wedi’i gorchuddio gan deils ceramig amryliw hardd mewn patrymau mosäig geometrig. Mae cromennau gwyrddlas llachar yn disgleirio yn yr haul o dan wybren las ddigwmwl ac wrth i’r gerddoriaeth ddechrau, mae’r machlud haul yn bwrw golau cynnes ar oledd ar draws y sgwâr, gan beri i’r ffasgiâu ceramig disglair ymddangos yn debycach byth i emau.
Mae Stacey wedi cael amser cyffrous a phrysur hefyd – hi oedd un o dri chyfansoddwr a ddewiswyd i gyfansoddi symudiadau newydd mewn cysylltiad â Sheherezade Rimsky Korsakov i Theatr Ddawns Genedlaethol Cymru – perfformiwyd ei cherddoriaeth gan gôr o 180 o leisiau ac adran chwythbrennau Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Neuadd Dewi Sant. Yna, cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr i Gyfansoddwr gan Sefydliad Paul Hamlyn ac mae newydd gael cynnig preswyliad Cyfansoddwr/Cyfarwyddwr Cerdd a Pherfformiwr gyda Nofit State Circus yng Nghaerdydd.
Ym mis Mawrth, gwahoddwyd Lynne i siarad a chanu mewn seminar yng Nghaeredin o’r enw A Place for Words. Yng nghwmni’r dehonglydd treftadaeth Carolyn Lloyd Brown, cyflwynodd y prosiect Tywysogion Gwynedd sy’n dehongli hanes a diwylliant y Tywysogion drwy farddoniaeth a cherddoriaeth y cyfnod. Derbyniodd Lynne gontract i gynhyrchu cerddoriaeth a chlipiau sain o ddetholiad o farddoniaeth ganoloesol i nifer o ganolfannau treftadaeth. Bu’n cydweithio â Dr Ann Parry Owen, Arfon Gwilym, Twm Morys, yr Athro Peredur Lynch, Dr Peter Stacey, Sille Ilves, Stacey Blythe, Dylan Fowler a Gillian Stevens i recordio a chyflwyno’r gerddoriaeth a’r farddoniaeth. Ym mis Awst, bu Ffynnon yn Llydaw lle buont yn perfformio yn Festivale Interceltique de Lorient. Yn ôl yng Nghymru, perfformiodd Ffynnon yn yr Acoustic Meeting Ground ym Mhontardawe: – a chawsant sesiwn ffilmio gyda Sharron Harris o Curious Ostrich:
Sept Marins from curious ostrich on Vimeo. Yn yr hydref, daeth y daith dweud straeon y bu mawr ddisgwyl amdani, Hunting the Giant’s Daughter â’i throeon stori yn ne-orllewin Lloegr: Comisiynwyd y sioe am y tro cyntaf gan Ŵyl Ryngwladol Dweud Straeon ‘Tu Hwnt i’r Ffin’, http://www.beyondtheborder.com/ Bu Ffynnon yn cydweithio â’r cyfarwydd enwog Michael Harvey. Mae’r tri artist yn andros o ddiolchgar i dîm Adverse Camber am drefnu’r daith fendigedig 15-dyddiad, hefyd i’r bobl a gyfarfuon nhw yno am eu croeso hael a helaeth! http://www.adversecamber.org/latest-news/walking-the-story
Mae Ffynnon yn y stiwdio dros y gaeaf yn recordio cerddoriaeth i’r CD newydd. Yn y flwyddyn newydd, byddant yn cydweithredu â’r artist gweledol, Maria Hayes, i ddatblygu perfformiad dramatig dweud straeon sy’n cynnwys arlunio a ffilm dirlun wedi’u taflunio’n ddigidol. Enw’r gwaith yw Kymbri ac mae’n ailadrodd straeon o’r Hen Ogledd yn ystod Oes Arwrol yr Hen Frythoniaid.
|
| Copyright © 2026 Ffynnon, All rights reserved. Terms & Conditions : Privacy Policy |