Llongau
Y Cadno a'r Ladi fawr benfelen
The foxy thief and the big blond woman…
Mae Cadnaw yn Rhiw'r Creiny,
Fel gwyddo pawb ei fod
A phawb yn perchen defaid
Rhowch ar eu cefnau nod.
Cytgan: Ffa, la la etc.
Fe ddwgodd gwyddau Cronllwyn,
Sy'n uchel ar y bryn
A phadell bres Cilglynen,
Mae'n eitha gwir am hyn.
Fe ddwgodd gordd o'r chwarel,
A'i chynnig hi i'r gof,
Pallodd y gof ei chymryd,
A gwaeddodd ar ei ol.
Fe guddiodd honno wedyn,
- lle dirgel mawr dros ben
Yn allt Cilshane Uchaf,
Gyferbyn â Dolwen.
Fe ddwgodd bâr o sane,
O Rwssia ger Parkgwyn,
A wyau o Ty'r Defaid,
Do lawer gwaith cyn hyn.
----o----
Hen ladi fawr benfelen
Yn dod gatre o'r ffair
Cynigiodd I mi goron
Am ladd y weirglodd wair.
Twdl-di rei di hei di ho x 2
Timi hei timi hei, timi hôm
Roedd yno thwmpie a thampie
A llawer o bridd i wadd
Ac ambell I bishyn garw
Yn anodd iawn I'w ladd
Roedd tonen ar ei chanol
Digon o le i shinco llong
Roedd gofyn ca'l bachgen teidi
Cyn mentro mewn i hon!
|