Llongau
Morforwyn
The Sea Maiden
Ysbrydolwyd yr alaw gan forloi'n canu ar arfordir creigiog Sir Benfro.
Deep are the western seas, dark and deep, little fishes and great whales and the people of the sea in their blue-green watery country.. the tune is inspired by seals' songs on the rocky Pembrokeshire coast.
Dwfn yw'r moroedd y gorllewin, du a dwfn
Pysgod bychain a morfilod yn ei elfen
A tylwyth y mor, gwledydd y dyfnder
A tylwyth y mor, gwledydd y dyfnder
Morwyn dlos, yn gweithioo'r caeau, wrth ei hunan
Clywed cri yn dod o'r creigiau, dan y heulwen
Cri y morlo, cri yr wylan
Cri y morlo, cri yr wylan
Bachgen wallt-ddu, gwên, a'I wefus, oedd yn galw
'Dere 'da fi, merch y caeau, rwy'n dy garu di
dere i ddawnsio, dawnsio yn y dŵr
dere i ddawnsio, dawnsio yn y dŵr
na wnaf bachgen, rwyf yn fodlon gweithio'r caeau
mae dy galon, mae dy galon yn y dyfnder
cer di o 'ma! Paid a'm poeni
cer di o 'ma! Paid a'm poeni
ond fe ddaeth ei gariad eto, mewn breuddwydion
clywed galw, clywed chwerthin, clywed caneuon
'Dere i ddawnsio, byw yn rhydd
Dere i ddawnsio, byw yn rhydd'
Bum yn rhodio ar foreuddydd, ar ben clogwyn
Clywed cri yn dod o'r creigiau, cwyn morforwyn:
'Byw yn rhydd, byw yn rhydd
dere i ddawnsio, byw yn rhydd'
|